Text Box: James Vyvyan-Robinson, Rheolwr Gyfarwyddwr y Grŵp
 Clearsprings Ready Homes Ltd
 26 Brook Road
 Rayleigh
 SS6 7XJ

12 Ionawr 2017

Annwyl James,

Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor wedi cael tystiolaeth gan amrywiaeth o bobl a sefydliadau yn tynnu sylw at bryderon ynghylch ansawdd y tai a gwasanaethau cysylltiedig a ddarperir i geiswyr lloches, ac o ran dryswch ynghylch pwy sy'n gyfrifol am fonitro a sicrhau ansawdd.

Mae'r dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ar gael yn  http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?id=228&RPID=1008224700&cp=yes  ac mae trawsgrifiadau o sesiynau tystiolaeth lafar i'w gweld yn  http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=15159.

Gan fod peth o'r dystiolaeth wedi crybwyll eich cwmni, ac wedi amlygu problemau sylweddol gyda'r gwasanaethau a ddarperir gennych, hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i roi tystiolaeth lafar, er mwyn i chi gael y cyfle i ymateb i'r dystiolaeth a gawsom hyd yn hyn ac i gynorthwyo Aelodau i gael dealltwriaeth fwy trylwyr o'r sefyllfa sy'n wynebu ceiswyr lloches yng Nghymru.


 

Yn benodol, byddai'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ar y cwestiynau canlynol:

·         Pa gyfrifoldebau penodol sydd gennych o dan eich cytundeb gyda'r Swyddfa Gartref i geiswyr lloches yng Nghymru, gan gynnwys p'un a ydych yn gyfrifol am sicrhau bod sgrinio iechyd cychwynnol yn digwydd a bod gwersi Saesneg ar gael (gan fod y rhain wedi cael eu hamlygu i'r Pwyllgor fel meysydd sy'n peri problemau).

·         Pa fesurau perfformiad yr ydych yn eu defnyddio, neu y mae'n ofynnol i chi eu defnyddio, er mwyn sicrhau bod y llety yr ydych yn ei gynnig o ansawdd boddhaol; methodoleg ac amlder monitro perfformiad ac adrodd i'r Swyddfa Gartref; a'r prosesau sydd ar waith i dderbyn ac ymchwilio i gwynion

·         Eich ymateb i'r problemau penodol a amlygwyd i'r Pwyllgor mewn tystiolaeth ysgrifenedig a llafar. Am ragor o wybodaeth am y problemau penodol, cyfeiriwch at y dystiolaeth ysgrifenedig a'r trawsgrifiadau llafar. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'r tîm clercio ar naill ai 0300 200 6565 neu SeneddCymunedau@cynulliad.cymru

Gan fod y Pwyllgor yn dod i ddiwedd ei ymchwiliad, yr unig ddiwrnod sydd ar gael i gymryd tystiolaeth lafar gennych yw dydd Iau 19 Ionawr. Yr wyf yn sylweddoli bod hyn yn fyr rybudd, ond byddwn yn gwerthfawrogi pe byddech chi neu eich staff priodol ar gael, ac yr wyf yn gallu cynnig rhywfaint o hyblygrwydd o ran amseru i gynorthwyo â hyn. Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor ar y dyddiad hwnnw, byddwn yn ddiolchgar pe gallech gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol erbyn dydd Mercher 18 Ionawr ond fan bellaf erbyn dydd Iau 2 Chwefror.

Yn gywir,

John Griffiths AC